Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Priorities for the Children, Young People and Education Committee

 

CYPE 23

Ymateb gan : Joanne Jones

Response from : Joanne Jones

Cwestiwn 1 – Yn y cylch gwaith uchod, yn eich barn chi, pa flaenoriaethau neu faterion y dylai’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg roi sylw iddynt yn y Pumed Cynulliad?

Blaenoriaethau’r Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch darparu ambiwlans i blant, ac yn benodol, plant â Diabetes Math 1. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n anymwybodol oherwydd coma diabetig yn y categori “oren” sy’n golygu nad oes rhaid anfon ambiwlans o fewn 8 munud. 

The priorities of the Welsh Ambulance Service NHS Trust when providing ambulances to children, and specifically children with Type 1 Diabetes.  Currently, an unconscious child in a diabetic coma comes under the “Amber” category, and so an emergency ambulance, to arrive within 8 minutes, will not be provided.

Cwestiwn 2 - O’r blaenoriaethau neu faterion a nodwyd gennych, beth yw’r prif feysydd, yn eich barn chi, y dylid rhoi sylw iddynt yn y 12 mis nesaf (nodwch hyd at dri maes neu fater)?  Amlinellwch pam y dylid rhoi sylw i’r rhain fel prif flaenoriaethau.

Craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru ynghylch trin plant Cymru sydd â Diabetes Math 1, a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal, trwy sicrhau bod gwasanaeth ambiwlans addas ar gael iddynt. Fel arall, mae eu bywydau dan fygythiad. Mae gen i dystiolaeth o hyn os oes angen.

Scrutinise Welsh Government policy for treating children in Wales who have Type 1 Diabates, ensuring they receive equal treatment by delivering an appropriate ambulance.  Otherwise, their lives are under threat.  Evidence of this can be provided.